Mae iechyd meddwl wedi dod yn bwnc sy’n cael ei drafod a’i dderbyn yn fwy agored mewn cymdeithas. Mae hyn hefyd yn digwydd yn y gweithle; fodd bynnag, mae’r diwydiant adeiladu yn dal i boeni am y stigma sy’n gysylltiedig â datgelu cyflwr iechyd meddwl. Mae gwroliaeth (machismo) yn hollbresennol ym maes adeiladu, ac fe deimlir hynny gan y gweithwyr sy’n ceisio cymorth ar gyfer yr hyn a ddisgrifiwyd yn flaenorol fel ‘epidemig tawel’ (Stevenson a Farmer 2017).
Mae’r canfyddiad bod y diwydiant yn y trydydd safle o ran y sector sy’n peri’r mwyaf o straen yn y Deyrnas Unedig – gyda 82% o weithwyr yn profi straen ar ryw adeg bob wythnos – yn ategu’r angen am ddeialog gadarnhaol a newid agwedd ynghylch iechyd meddwl (Farrell 2018). Er bod cyfraddau adrodd yn codi, mae amharodrwydd i drafod iechyd meddwl yn agored yn y gweithle yn dal i fod (Van Ek a Le Feuvre 2021).
Adleisir y teimlad hwn gan Emma Mamo, Pennaeth Lles yn y Gweithle yn Mind, a dynnodd sylw at y diffyg parodrwydd i drafod iechyd meddwl mewn diwydiant sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion, fel adeiladu. Mae hyn, yn ei dro, yn cael ei adlewyrchu yn y ffaith bod cyfraddau hunanladdiad yn dal yn syfrdanol o uchel ymysg crefftwyr y sector adeiladu yn y DU. Mae’r ddelwedd ar y dudalen hon yn dangos murlun ac arno 687 o festiau llachar, sy’n cynrychioli nifer cyfartalog y marwolaethau blynyddol oherwydd hunanladdiad ymysg crefftwyr yn y DU yn 2021.
Mae dynion sy’n gweithio yn y diwydiant adeiladu dair gwaith yn fwy tebygol o ladd eu hunain na’r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer dynion, ac mae mwy o weithwyr adeiladu’n marw o ganlyniad i hunanladdiad nag o ganlyniad i syrthio bob blwyddyn, gyda dau berson yn gweithio yn y sector hwn yn colli eu bywydau oherwydd hunanladdiad bob dydd (APHC 2022). Mae hyn yn dangos bod angen newid a chael sgwrs agored am iechyd meddwl, gan fod 83% o bobl ym maes adeiladu wedi cael problem iechyd meddwl a 91% wedi teimlo eu bod wedi cael eu llethu (APHC 2022). Nid yw’r ystadegau hyn yn rhywbeth y gallwn fforddio ei anwybyddu.
Her arall yw bod y ddyletswydd gofal mewn deddfwriaeth bresennol yn rhoi pwyslais ar iechyd corfforol. Byddai ymgorffori iechyd meddwl o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 (HASAWA), a gwneud materion iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â gwaith yn rhai y mae modd adrodd arnynt o dan y Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR), yn amlygu pwysigrwydd iechyd meddwl ac yn ei wneud yn gydradd ag iechyd corfforol. Byddai newid deddfwriaethol yn gorfodi’r cwricwlwm addysg presennol i ddarparu ar gyfer y newidiadau (Van Ek a Le Feuvre 2021). Mae addysg yn hanfodol i wella ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ymysg cyflogwyr a gweithwyr, ac nid yn y gweithle yn unig, ond hefyd drwy addysgu yn yr ystafell ddosbarth. Bydd hyn yn meithrin diwylliant o ddeall a derbyn yn gymdeithasol, gan gefnogi’r newid is-ddiwylliannol sy’n dechrau dod i’r amlwg (Van Ek a Le Feuvre 2021).
Mae newid ar y gorwel, wrth i agweddau a chanfyddiadau esblygu, ond mae’n araf – ac mae rhwystrau i’w goresgyn o hyd: ofni stigma, cywilydd a gweithwyr yn dewis bod yn hunanddibynnol (Van Ek a Le Feuvre 2021). Mae’n deg dweud bod llu o ymgyrchoedd wedi cael eu cynnal, gyda’r nod o godi proffil iechyd meddwl a chreu amgylchedd llawer mwy agored sy’n annog diwylliant o gefnogi a thrafod. Yn yr un modd, mae nifer o sefydliadau sy’n helpu gweithwyr adeiladu mewn ffyrdd cadarnhaol ac sy’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau defnyddiol. Mae angen i ni godi proffil iechyd meddwl a gwaith y sefydliadau hyn ymysg dysgwyr, gan mai nhw sydd ar lawr gwlad ac yn gallu rhannu neges gadarnhaol, yn ogystal â meithrin newid i gefnogi’r datblygiadau arloesol sydd eisoes yn dod i’r amlwg.
Mae’n anorfod y bydd trawsnewid diwylliant diwydiant cyfan yn cymryd amser, ond gyda dull amlochrog a chefnogaeth barhaus, mae newid yn bosibl. Mae gennym ni’r momentwm, felly gadewch i ni ei ddefnyddio fel grym ar gyfer gwelliant cadarnhaol a pharhaol.
Rhif Cyswllt y Samariaid: 116 123
Gwefan y Samariaid:
www.samaritans.org/how-we-can-help/contact-samaritan/ (Saesneg)
www.samaritans.org/cymru/how-we-can-help/contact-samaritan/welsh-language-phone-line/ (Cymraeg)
Rhif Cyswllt Mind: 0300 123 3393
Gwefan Mind: www.mind.org.uk/need-urgent-help/using-this-tool/
Llinell Gymorth y Diwydiant Adeiladu: 0345 605 1956
Tecstiwch: HARDHAT i 85258
Ap Llinell Gymorth y Diwydiant Adeiladu: Chwiliwch am: Construction Industry Helpline
Gwefan y Diwydiant Adeiladu: www.constructiondustryhelpline.com
Mae Diwydiant Adeiladu Mwy Amrywiol yn Ddiwydiant Adeiladu Cryfach
Gall bod yn fwy cynhwysol a hyrwyddo amrywiaeth helpu i gau’r bwlch sgiliau
Mae’r sector adeiladu’n chwarae rhan hollbwysig yn economi’r DU, gan gyfrannu £110 biliwn y flwyddyn – 7% o’r cynnyrch domestig gros (GDP) – a darparu gwaith i oddeutu 3.1 miliwn o unigolion, sy’n cyfrif am tua 9% o gyfanswm cyflogaeth y DU. Yn anffodus, mae’r diwydiant hwn yn wynebu argyfwng sylweddol y mae cofnod da ohono: y ‘bwlch sgiliau’. Mae 22% o’r gweithlu presennol dros 50 oed ac mae 15% yn eu 60au. Ar yr un pryd, yn y farchnad lafur bresennol, mae’r diwydiant hefyd yn colli gweithwyr iau i sectorau sy’n cystadlu ag ef, lle mae’r gwaith yn cael ei ystyried yn fwy sefydlog neu’n fwy atyniadol a lle mae’r cyflogau’n fwy cystadleuol (constructionmaguk.co.uk 2023). Yn yr un modd, esboniodd Minett (2021) bod y cenedlaethau iau o’r farn gyffredinol yw nad yw gweithio ym maes adeiladu yn ddymunol. Mae arolygon barn yn dangos mai dim ond 5% o ddysgwyr sy’n ystyried dilyn rolau yn y sector.
Fe wnaeth Evans (RICS 2019) ein hatgoffa bod her i’w goresgyn o ran esbonio i bobl ifanc beth sy’n ddeniadol am adeiladu. Ar ben hynny, awgrymodd Minett (2021) fod Brexit wedi cyflwyno cymhlethdodau newydd i wladolion yr UE sy’n chwilio am waith yn y DU, gan fynnu eu bod yn mynd drwy broses ymgeisio fisa ddrud a chymhleth.
Mae RICS (2019) wedi tynnu sylw at heriau eraill mae’r diwydiant yn eu hwynebu. Er enghraifft, fel y soniwyd o’r blaen, mae canfyddiad nad yw swyddi o reidrwydd mor ddiogel â’r swyddi mewn diwydiannau eraill. Os na roddir sylw i’r bwlch sgiliau hwn, gallai achosi oedi gyda phrosiectau a risg uwch o ddigwyddiadau diogelwch, oherwydd bod angen defnyddio gweithwyr dibrofiad, a bod pwysau ar led yr elw presennol ac amserlenni tynn (On-Site Magazine 2022).
Felly, beth yw’r atebion i’r broblem hon? Sut ydyn ni’n denu’r genhedlaeth nesaf o dalent i’n diwydiant er mwyn iddyn nhw allu disodli ein gweithlu sy’n heneiddio? Wrth ystyried gofynion cynyddol sector adeiladu’r DU, amcangyfrifir bod angen cymaint â 266,000 o weithwyr ychwanegol erbyn 2026 i fodloni’r cwota hwn yn ddigonol (Maggiaini 2022). Mae gennym ni’r hen ddulliau a ddefnyddir yn aml, sef addysg a chodi ymwybyddiaeth. Mae’r rhain yn adnabyddus, gan eu bod yn gweithio, ond mae angen mwy o bresenoldeb mewn lleoliadau addysgol. Gall cydweithio â sefydliadau a chynnig rhaglenni lle cyflwynir pynciau sy’n gysylltiedig ag adeiladu ennyn diddordeb a darparu profiadau ymarferol, yn ogystal â hyrwyddo effaith gadarnhaol adeiladu, fel creu strwythurau eiconig a chyfrannu at gymunedau lleol. Bydd hyn i gyd yn helpu i feithrin ymdeimlad o bwrpas a balchder ymysg darpar weithwyr proffesiynol (Approach Personnel 2023).
Ffordd arall yw mynd i’r afael â’r diffyg amrywiaeth yn y diwydiant adeiladu. Mae goresgyn delwedd hanesyddol y diwydiant o fod yn un sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion yn nod sylweddol, oherwydd efallai na fydd menywod yn ystyried adeiladu fel llwybr gyrfa sy’n apelio atynt oherwydd y rhagdybiaethau, fel yr oriau hir ac chyfran y dynion gwyn hŷn yn y maes. Mae menywod yn cyfrif am ychydig o dan hanner cyfanswm gweithlu’r DU ond dim ond 11% o’r gweithlu adeiladu, a dim ond 1% o’r gweithwyr ar safleoedd adeiladu (Cyngor y Diwydiant Adeiladu 2023). Mae gan y diwydiant adeiladu broblem amrywiaeth yn gyffredinol, gyda dim ond 5.4% o’i weithwyr yn dod o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Mae cyfraith bresennol y DU yn gwarchod grwpiau lleiafrifol rhag gwahaniaethu, ond nid yw’n ofyniad cyfreithiol i fonitro amrywiaeth yn y gweithle ac nid yw’n orfodol ymgymryd â hyfforddiant ar amrywiaeth na pholisïau gwrth-gamwahaniaethol.
Gyda chyfran sylweddol o’r diwydiant adeiladu yn ddynion gwyn, mae risg sylweddol o ragfarn ddiarwybod wrth wneud penderfyniadau, a thuedd i ddiwylliannau gael eu siapio o amgylch y farn fwyafrifol (Sefydliad Siartredig Adeiladu 2023). Gall hyn arwain at ddiwylliant yn y gweithle lle mae ymddygiad ac iaith amhriodol yn cael eu hystyried yn arfer ‘normal’, gan roi’r argraff i’r rheini sy’n wynebu’r ymddygiad hwn nad adeiladu yw’r llwybr gyrfa iddynt. Mae’r bwlch sgiliau yn fater cyfredol y mae angen mynd i’r afael ag ef, a gallai dod yn fwy amrywiol a chynhwysol fynd ymhell i gynnal ein diwydiant.
Felly, mae Cyngor y Diwydiant Adeiladu (2023) wedi awgrymu bod angen newid diwylliannol; dylid cefnogi busnesau i fuddsoddi mewn hyfforddiant ac i gael eu haddysgu am fanteision gweithlu amrywiol. Mae newid amlwg yr oedd mawr ei angen wedi bod ym maes adeiladu yn ystod y blynyddoedd diwethaf – tuag at ddeall yn well a derbyn manteision Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yn y gweithle ac yn y gymdeithas ehangach. Mae ymchwil wedi dangos bod hyn yn wir dro ar ôl tro: mae cwmnïau rhywedd-amrywiol 14% yn fwy tebygol o berfformio’n well na chwmnïau nad ydynt yn gwmnïau amrywiol, ac mae gweithleoedd ethnig amrywiol 35% yn fwy tebygol o berfformio’n well (NCFD 2016).
Gyda’r gwelliannau clir a phendant hyn mewn canlyniadau, mae angen i’r diwydiant adeiladu weithredu’n gyflym i sicrhau’r manteision hyn. Eglurodd CIOB (2023) os yw’r diwydiant am wireddu ei uchelgeisiau i fod yn fwy cynhwysol a mwy amrywiol, mae angen i newid ddechrau gydag arweinyddiaeth. Mae gan arweinwyr botensial enfawr i ddylanwadu ar eraill drwy eu hagweddau cynhwysol, cefnogol a pharchus eu hunain. Mae mwy o hyfforddiant ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, ac ymwybyddiaeth o’r rhain, wedi’i gysylltu ag ymddygiad cadarnhaol a newid diwylliannol. Ar ben hynny, dylai rhaglenni Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant bennu disgwyliadau a safonau, goblygiadau sawl math o ragfarn, a’r effaith y mae systemau, prosesau a diwylliannau sefydliadau yn ei chael o ran naill ai creu neu annog cynhwysiant (CIOB 2023).
Fel sector sydd â phrinder sgiliau ar y gorwel, dylai cwmnïau adeiladu fod yn ystyried ffyrdd o annog mwy o bobl nag erioed i ddilyn gyrfa yn y diwydiant. Gallai agor cyfleoedd i ymgeiswyr amrywiol, a allai fod wedi teimlo eu bod wedi’u heithrio neu nad oes croeso iddynt yn y diwydiant adeiladu, fod yn ateb i’r prinder sgiliau ac i wella amrywiaeth yn y gweithle (Mintett 2021).
Fodd bynnag, dim ond hanner y gwaith yw annog grwpiau amrywiol i ymuno â’r diwydiant adeiladu. Efallai mai’r cymhelliant mwyaf i fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau hwn yw gweld amrywiaeth yn llwyddo ar waith. Mae ehangu’r gronfa dalent yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gyflawni hyn, gan y bydd yn galluogi gweithwyr â phrofiad helaeth sydd heb gael eu cyrraedd o’r blaen – yn ogystal â thalent newydd sydd â sgiliau cyfredol a safbwyntiau arloesol – i hybu cynhyrchiant, grymuso creadigrwydd a gwella perfformiad masnachol (Maggiaini 2022). Gwelir yr effaith gylchol wrth i arallgyfeirio’r gweithlu adeiladu arwain at fwy o anogaeth i Bobl Ddu, Asiaidd, Lleiafrifoedd Ethnig a menywod ymuno â’r diwydiant. O ganlyniad, mae angen ymrwymiad parhaus i feithrin diwylliant cynhwysol sy’n cymell unigolion amrywiol i ddilyn gyrfaoedd ym maes adeiladu.
Mae adeiladu’n dal yn hollbwysig i greu a chynnal ein hamgylchedd adeiledig; rydyn ni’n byw mewn cymdeithasau amrywiol a chynhwysol ac mae angen i’r gwaith adeiladu adlewyrchu hyn. Gan fod cymaint o wybodaeth a phrofiad yn cael eu colli o’n diwydiant drwy boblogaeth waith sy’n heneiddio, mae ‘cyfle rhagorol’ i newid y diwylliant a symud tuag at ddiwydiant mwy amrywiol a chynhwysol sy’n denu pobl o drawstoriad o gymdeithas, ac sy’n gwerthfawrogi eu safbwyntiau, eu profiadau a’u syniadau.
Mae paratoi ar gyfer dyfodol adeiladu yn y DU yn golygu cydweithio rhwng y llywodraeth, arweinwyr y diwydiant a sefydliadau addysgol. Gall mentrau ar y cyd sy’n cefnogi grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli ac yn cael gwared ar rwystrau rhag mynediad feithrin cyfleoedd cyfartal, codi ymwybyddiaeth o yrfaoedd adeiladu, a thynnu sylw at botensial y diwydiant ar gyfer twf ac arloesi.
Cefnogi cynhadledd ColegauCymru fel y Prif NoddwrCynhaliwyd Cynhadledd flynyddol ColegauCymru eleni ar 12 Hydref yng Ngwesty’r Hilton yng Nghaerdydd. Roedd yn anrhydedd i City & Guilds gael bod yn brif noddwr yn y digwyddiad, a ddaeth ag addysgwyr ac arweinwyr diwydiant ynghyd i drafod y materion allweddol sy’n wynebu addysg bellach yng Nghymru.
Gan fod disgwyl i’r cyd-destun addysg yng Nghymru drawsnewid yn sylweddol yn dilyn cyhoeddi cynlluniau i ailwampio’r broses o ddarparu a llywodraethu datblygu sgiliau ôl-16, roedd gan y rhai a oedd yn bresennol a’r siaradwyr gwadd ddigon i’w drafod. Gyda’r sgyrsiau hyn yn cael eu cynnal yn ystod digwyddiad hollbwysig ar galendr addysg Cymru, roeddem yn falch o gael Angharad Lloyd-Beynon, Sian Beddis ac Eric Oliver yn cynrychioli City & Guilds yn y gynhadledd.
Cyfle i rwydweithio cyn y digwyddiad
Cyn y gynhadledd, ar 11 Hydref, aeth Angharad am ginio â’r penaethiaid coleg a’r Prif Weithredwyr a oedd wedi cael eu gwahodd i’r digwyddiad, ym mwyty hyfforddi Y Dosbarth yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Yn ogystal â rhoi cyfle iddi siarad yn uniongyrchol â’r bobl allweddol sy’n gwneud penderfyniadau, roedd hyn hefyd yn gyfle i gael gweld sut roedd gwaith datblygu sgiliau City & Guilds yn mynd, gyda’r bwyd yn y bwyty yn cael ei baratoi a’i weini gan ddysgwyr sy’n astudio ar gyfer cymwysterau City & Guilds.
Hefyd, clywodd y gwesteion yn y cinio gan y siaradwr ar gyfer y noson, sef Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru. Rhannodd Rhun ei feddyliau am bwysigrwydd colegau Addysg Bellach yng Nghymru a’r cyfleoedd y gallant eu cynnig i bobl ifanc ddatblygu sgiliau hanfodol i sicrhau cyflogaeth.
Gwybodaeth o gynhadledd ColegauCymru 2023
Agorodd y gynhadledd y diwrnod canlynol gyda phawb a oedd yn bresennol yn llawn brwdfrydedd. Gan mai hon oedd cynhadledd wyneb yn wyneb gyntaf ColegauCymru ers 2019, roedd yn gyfle gwych i’r rheini sy’n gweithio ym maes addysg yng Nghymru ddod at ei gilydd i rannu eu profiadau a’u disgwyliadau ar gyfer y blynyddoedd nesaf ym myd addysg yng Nghymru.
Yn dilyn trafodaeth gyntaf y panel, cafwyd anerchiad gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg. Pwysleisiodd yn ei araith ei fod yn parhau i gefnogi’r sector addysg bellach yng Nghymru, gan gydnabod y gwerth y mae’n ei gynnig o ran cefnogi dysgwyr a chymunedau a helpu i ddatblygu economi gref yng Nghymru ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn arwydd pwysig o gefnogaeth i’r gwaith y mae’r darparwyr hyfforddiant a’r cyflogwyr rydym yn gweithio gyda nhw ledled Cymru yn ei wneud, ac mae’n dangos pwysigrwydd hyfforddiant a datblygu sgiliau i ddyfodol Cymru.
Angharad oedd y nesaf ar y llwyfan, lle’r oedd yn gallu rhannu gwybodaeth am y gwaith y mae City & Guilds yn ei wneud yng Nghymru â’r 150 o bobl a oedd yn bresennol. Roedd hyn yn cynnwys tynnu sylw at yr amrywiaeth o gymwysterau sydd ar gael i ddysgwyr Cymraeg, ac yn enwedig y gwaith sy’n cael ei wneud fel rhan o Sefydliad City & Guilds i ariannu amrywiaeth o brosiectau yng Nghymru.
Roedd yr araith hon hefyd yn gyfle i longyfarch enillwyr Gwobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol a oedd yn bresennol, a dathlu sefydliadau yng Nghymru sydd wedi rhoi gwaith datblygu hyfforddiant a sgiliau rhagorol ar waith, sydd wedi arwain at fanteision i’r sefydliadau. Siaradodd Angharad hefyd am bopeth y mae City & Guilds yn ei wneud ar hyn o bryd i gefnogi targed Llywodraeth Cymru o Filiwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Dywedodd Angharad “Fel y gallwch chi ddychmygu, roeddwn i ar bigau drain cyn siarad â chynulleidfa mor fawr a oedd yn cynnwys cyd-weithwyr o Lywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru a chynrychiolwyr o’r holl golegau yng Nghymru gan gynnwys Penaethiaid, Prif Weithredwyr a nifer o randdeiliaid allweddol eraill.”
Ar ôl yr areithiau hyn, clywodd pawb gan amrywiaeth o siaradwyr gwadd diddorol ar anghenion sgiliau’r dyfodol yng Nghymru, profiad y dysgwr, a sut bydd y Comisiwn newydd yn cefnogi’r sector addysg bellach o hyn allan. Gyda chynrychiolwyr o TUC Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach a Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru i gyd yn rhannu eu gwybodaeth a’u profiad o ddysgu a datblygu yng Nghymru, roedd ystod eang o arbenigedd gwerthfawr i’w weld.
I grynhoi: gwybodaeth hanfodol a pharatoadau ar gyfer y dyfodol
Un o uchafbwyntiau’r gynhadledd i bawb oedd y trafodaethau bywiog ar draws yr wyth gweithdy, gyda phynciau’n cynnwys strategaeth Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol i Gymru, sicrhau dyfodol dwyieithog i addysg bellach, a chyfleoedd a heriau deallusrwydd artiffisial. Mae gwerth y trafodaethau hyn yn tanlinellu’r cyfle gwych y mae’r digwyddiad hwn yn ei roi i rai o’r bobl fwyaf dylanwadol mewn byd addysg yng Nghymru ddod at ei gilydd i weithio drwy’r materion y mae dysgwyr a darparwyr yng Nghymru yn eu hwynebu.
Roedd Cynhadledd ColegauCymru 2023 yn tynnu sylw at ymrwymiad cryf y rheini ym mhob rhan o’r ecosystem hyfforddi yng Nghymru i gefnogi dysgwyr ar bob lefel. Drwy roi llwyfan i drafod yr heriau sy’n wynebu’r maes datblygu sgiliau a hyfforddiant yng Nghymru, rhoddodd y gynhadledd gyfle hefyd i’r rhai a oedd yn bresennol siarad am atebion a pharhau i weithio gyda’i gilydd i greu dyfodol disglair i Gymru.
Rhagor o wybodaeth am ein gwaith yng Nghymru
Adnoddau uned 202 Dilyniant Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau AdeiladuMae adnoddau uned 202 Dilyniant Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu ar gael.
Uned 202: Arferion yn newid dros amser sy’n cynnwys
- cynlluniau gwaith
- Cyflwyniadau PowerPoint
- taflenni gwaith
- cwestiynau amlddewis.
Mae’r adnoddau ar gyfer Deilliannau 1, 3 a 4 yn berthnasol i bob crefft ac arbenigedd. Ar gyfer Deilliant 2 yr uned hon, edrychwch ar yr adnoddau sy’n berthnasol i grefft eich dysgwyr.
Ewch i dudalennau cymhwyster Dilyniant Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu ar y wefan a thrwy’r ddolen isod.
Lefel 2 Dilyniant mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu >
Rydyn ni hefyd yn datblygu adnoddau ar gyfer Deilliant 2 ‘Crefft teilsio’ ac yn gobeithio y byddant ar gael erbyn mis Tachwedd 2023. Fel bob amser, byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fyddant ar gael.
Sylfaen a Chraidd – Mae Prosiectau Ymarferol Fersiwn B yn fywMae’n bleser gennym gyhoeddi bod fersiwn B o’r prosiectau ymarferol ar gyfer y cymhwyster Sylfaen a Chraidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu ar gael i’w llwytho i lawr oddi ar wefan Sgiliau i Gymru.
Mae fersiynau newydd y Prosiectau Ymarferol yn cynnwys:
- briffiau prosiect newydd ar gyfer pob maes crefft
- tasgau newydd a gridiau marcio
- lleihau y maint cyffredinol a’r gofynion o ran deunyddiau, i wella’r gallu i reoli’r prosiectau ymarferol.
Mae’r fersiynau diweddaraf ar gael i’w lawrlwytho ar dudalen y cymhwyster ar gyfer y Sylfaen a’r Craidd o dan ‘Deunyddiau Asesu Byw’. Nid yw fersiynau blaenorol ar gael mwyach.
Adnoddau dysgu digidol – Adnoddau newydd ar gyfer uned dilyniant 201
Mae adnodd ychwanegol i diwtoriaid ar gael ac mae’n cynnwys y canlynol:
- Uned 201 Cyflogaeth a Chyflogadwyedd yn y Sector Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu.
Mae’r adnodd hwn ar gyfer y cymhwyster Dilyniant mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu ac mae ar gael ar wefan Sgiliau i Gymru.
Mae’r adnodd yn cynnwys:
- Cynlluniau gwaith
- Cyflwyniadau PowerPoint
- Taflenni gwaith
- Cwestiynau amlddewis.
Gweld adnodd Dilyniant mewn Adeiladu Uned 201 >
Gweld adnodd Dilyniant mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu Uned 201 >
Rydym hefyd wrthi’n datblygu – Uned 202 sy’n cynnwys ‘Arferion sy’n newid dros amser’ a fydd ar gael yn ystod mis Medi 2023.
Profion llywio
Yn ogystal â’r asesiadau enghreifftiol sydd ar gael, gallwch hefyd gael mynediad at ‘Brawf llywio’ sy’n helpu dysgwyr i ddefnyddio’r llwyfan profi ar gyfer cymwysterau Adeiladu City & Guilds yn unig.
Mae’n bosibl cael mynediad at rhain ar dudalennau gwe’r cymhwyster Adeiladu o dan ‘Deunyddiau asesu enghreifftiol’
Mae’r holl ddeunyddiau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg gan ddefnyddio’r botwm toglo yng nghornel dde uchaf pob tudalen we.
Cynaliadwyedd, Gwyrdd, Beth mae hynny’n ei olygu?
Mae gan y diwydiant adeiladu ddyletswydd gofal i’r amgylchedd. Rydyn ni’n defnyddio llawer iawn o adnoddau naturiol gyda phrosiectau pwrpasol gan chwilio am gynnyrch arbenigol i fodloni gofynion cleientiaid heb fawr o feddwl am eu heffaith. Yn yr un modd, mae cymdeithas yn defnyddio llawer iawn o dir i ddiwallu anghenion yr ‘argyfwng tai’, ond ar ba gost i’r amgylchedd? Ein diwydiant sy’n gyfrifol am fynd i’r afael â’r mater hwn, ond mae hyn yn codi’r cwestiwn ynghylch sut. Cyn gynted ag y bydd rhywun yn sôn am gynaliadwyedd neu dechnoleg werdd mewn perthynas ag adeiladu, mae gan bawb farn -yn enwedig gan fod newid yn yr hinsawdd yn bwnc cyfredol, ac mae’r termau gwyrdd a chynaliadwy wedi dod i olygu’r un peth bron. Felly, er mwyn deall y gwahaniaeth allweddol hwn, aeth PECB (2021) ati i ddisgrifio bod mynd yn wyrdd yn golygu defnyddio cynnyrch a gwasanaethau sy’n ecogyfeillgar. Mae cynaliadwyedd yn golygu defnyddio cynnyrch neu wasanaethau mewn ffordd nad yw’n niweidio adnoddau cenedlaethau’r dyfodol. Felly, efallai bod cynnyrch terfynol yn wyrdd, ond efallai na fydd y broses o’i weithgynhyrchu neu gynhyrchu yn gynaliadwy o gwbl. Er enghraifft, wrth gynhyrchu cynnyrch sydd angen llawer o ynni, ni ellir ystyried bod hynny’n gynaliadwy. Os caiff yr un cynnyrch eu gwneud o adnoddau adnewyddadwy, gellir eu hystyried yn wyrdd (PECB, 2021). Felly, wrth gymhwyso hyn i’r diwydiant adeiladu, mae angen gwahaniaethu rhwng datblygiadau cynaliadwy a datblygiadau gwyrdd.
Y prif wahaniaeth rhwng datblygu cynaliadwy a datblygu gwyrdd yw bod datblygu cynaliadwy yn canolbwyntio ar gymdeithas, yr amgylchedd, diwylliant ac economi, tra bod datblygu gwyrdd yn canolbwyntio’n llwyr ar yr amgylchedd. Er enghraifft, mae adeiladau cynaliadwy yn ystyried y tair colofn cynaliadwyedd (pobl, planed ac elw) yn ystod y gwaith adeiladu, ac mae adeiladau gwyrdd yn canolbwyntio’n llwyr ar yr amgylchedd (British Assessment Bureau, 2021, Pediaa.Com, 2021). Gan fod y prif wahaniaethau’n amlwg erbyn hyn, mae dal angen mynd i’r afael â’r termau niferus sy’n gysylltiedig ag adeiladu gwyrdd a chynaliadwy. Gall y jargon hwn ymddangos yn ddyrys i’w ddefnyddio; mae gwefan Green Spec (cliciwch y ddolen isod) wedi creu rhestr o dermau sy’n cael eu defnyddio yn y maes adeiladu hwn i’ch helpu i ddadansoddi’r ystod o dermau sy’n cael eu defnyddio fel arfer. Mae’r ail ddolen o’r wefan Designing Buildings yn rhoi trosolwg o adeiladu cynaliadwy yn y DU (Y Deyrnas Unedig). Drwy ddeall yr iaith sy’n cael ei defnyddio yn y maes hwn sy’n datblygu drwy’r amser, mae gennym gyfle i sicrhau bod ein dysgwyr yn gyfarwydd â’r derminoleg hon, ac y bydd hyn yn eu galluogi i gael dechrau da a mynd i’r afael â’r heriau a wynebir gyda meddwl agored a chwilfrydig.
Dolenni Defnyddiol
Diweddariadau i Reoliadau Adeiladu Cymru
Fel y gwyddom, mae gan Lywodraeth Cymru ymreolaeth ddatganoledig dros Reoliadau Adeiladu 2010, yn dilyn datganoli pwerau i Lywodraeth Cymru yn 2011. Cyn 2011, roedd y Rheoliadau Adeiladu yn berthnasol ledled Cymru a Lloegr. Yng Nghymru, rydym yn dal yn rhwym wrth Ddeddf Adeiladu 1984 a Rheoliadau Adeiladu 2010 dilynol. Mae fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r rheoliadau adeiladu a’r dogfennau cymeradwy yn cael eu hadolygu’n gyson. Mae hyn yn golygu bod y safonau rheoleiddio adeiladu presennol yn gyfystyr â safonau adeiladu Cymru.
Mae hyn yn cynnwys, yn 2014, gosod systemau chwistrellu dŵr awtomatig – cafodd hyn ei wneud yn orfodol yng Nghymru ar gyfer yr holl eiddo preswyl wedi’u haddasu a’r eiddo a oedd yn cael ei adeiladu o’r newydd. Dim ond un enghraifft yw hon o pan fo dogfennau cymeradwy rheoliadau adeiladu yn cael eu datblygu’n gyson er mwyn diwallu anghenion ein hamgylchedd adeiledig sy’n newid drwy’r amser. Gan symud i fis Tachwedd 2022, fe welsom yr ystod ddiweddaraf o ddogfennau cymeradwy yn cael eu datgan o dan Reoliadau Adeiladu 2010. Bydd y safonau newydd hyn yn sicrhau y bydd gwaith adeiladu yn y dyfodol yn arwain at safon byw well o ran effeithlonrwydd ynni, sy’n amserol iawn gyda’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng ynni. Mae Rhan L Cymru yn dilyn newidiadau yn Lloegr yn agos ac yn disgrifio y bydd gostyngiad o 37% mewn allyriadau carbon mewn cartrefi newydd o dan y safonau newydd o’i gymharu â safonau Rhan L Cymru 2014. Mae hyn yn cymharu â gostyngiad o 31% mewn allyriadau carbon a nodir yn y diweddariad yn Lloegr, ond mae newidiadau eraill yn cyd-fynd i raddau helaeth â safonau Lloegr. Mae safon ofynnol effeithlonrwydd ynni newydd wedi’i chyflwyno hefyd ar gyfer adeiladau newydd, wedi’i gosod ar radd B tystysgrif perfformiad ynni sylfaenol (EPC). Ochr yn ochr â hyn, mae’n ofynnol erbyn hyn i gyflwyno profion aerglos gorfodol ar gyfer pob cartref (Elmhurst Energy, 2022, Ideal Heating, 2022). Ar ben hynny, mae’r risg o orboethi mewn adeiladau wedi cael sylw penodol yn ei ddogfen gymeradwy ei hun (Rhan O). Nid yw hyn yn cael ei gynnwys yn Rhan L mwyach.
Bydd y mesurau hyn yn helpu Cymru i gyrraedd ei nod sero net. Gan edrych tua’r dyfodol, rhaid i Bwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu (BRACW) sicrhau ei fod yn ymwybodol o ddatblygiadau nid yn unig yn ein diwydiant, ond hefyd wrth i dechnoleg esblygu i sicrhau bod y dogfennau cymeradwy yn gyfredol ac yn parhau i arwain y ffordd tuag at ein nod ar y cyd o gyrraedd sero net erbyn 2050. Rhaid i ni, fel addysgwyr, fod yn ymwybodol o’r newidiadau hyn gan mai ni sy’n gyfrifol am sicrhau bod ein dysgwyr yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.
Dolenni Defnyddiol
Ôl-osod ein Stoc Dai i gyrraedd Sero Net erbyn 2050
Mae’r 30 miliwn o gartrefi yn y DU yn cyfrif am dros 21% o gyfanswm allyriadau carbon y wlad, gyda thri chwarter hyn yn dod o systemau gwresogi. Mae 85% o gartrefi’r DU ar y rhwydwaith nwy, yn defnyddio tanwyddau ffosil ac yn cynhyrchu llawer iawn o allyriadau carbon (Lily. Glover-Wright, 2021). Nid yw hyn yn mynd i’r afael â phroblem y stoc dai bresennol. Ond, mae ateb yn cael ei gynnig ar ffurf ôl-osod, ond beth yw hyn? Ôl-osod yw’r broses o wneud newidiadau i adeiladau presennol fel bod llai o ynni’n cael ei ddefnyddio a llai o allyriadau. Mae’n golygu gwella perfformiad a chysur thermol eich cartref yn sylweddol, ac mae’n gwella adeiledd yr adeilad. Dylai’r newidiadau hyn hefyd arwain at y fantais o gael cartref mwy cyfforddus ac iachach gyda biliau tanwydd is (Trustmark.org.uk, 2019, Woodfield, 2021). Fel gwlad, ni wnawn lwyddo yn y frwydr yn erbyn yr Argyfwng Hinsawdd os na fyddwn yn mynd ati’n effeithiol i leihau allyriadau carbon o bob un o’n cartrefi. Mae ôl-osod ein cartrefi i ddefnyddio systemau gwresogi carbon isel yn her fawr, ac mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â hyn er mwyn cyrraedd allyriadau sero net erbyn 2050 (Lily. Glover-Wright, 2021, Sero, 2022). Fodd bynnag, er mwyn cyflawni hyn i gyd, mae angen gwneud y gwaith yn briodol gyda chynllun a dyluniad pwrpasol ac wedi’i osod gan grefftwyr medrus a chymwys sy’n gweithio yn unol â safonau llym o gymhwysedd technegol (Trustmark.org.uk).
Er mwyn sicrhau bod y DU ar y trywydd iawn i gyrraedd sero net erbyn 2050, rhaid i bob cartref gael gradd ‘C’ neu uwch ar Dystysgrif Perfformiad Ynni (EPC). Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o gartrefi yn perthyn i fand ‘D’ ar hyn o bryd. Fel y cynigiwyd, bydd symud i fyny un band yn welliant amlwg i drigolion a’r effaith amgylcheddol anuniongyrchol o ddefnyddio llai o wres ac ynni. Felly, beth yw’r opsiynau? Mae sawl ffordd o ôl-osod tŷ, gan amrywio o welliannau un ystafell i waith ôl-osod tai cyfan, ond mae pob proses wedi’i chynllunio yn y pen draw i chi ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon. Mae canolbwyntio ar effeithlonrwydd yn golygu bod ôl-osod yn wahanol i adnewyddu tŷ neu wneud gwelliannau i gartrefi sydd â’r bwriad o wneud cartref yn fwy esthetig. Mae’r mesurau ôl-osod yn cynnwys inswleiddio’r atig a gwydr dwbl neu asesu ac adnewyddu’r tŷ cyfan gyda nifer o fesurau inswleiddio i leihau’r gwres sy’n cael ei golli. Gall gwaith ôl-osod hefyd gynnwys gosod pwmp gwres neu dechnoleg carbon isel debyg i leihau dibyniaeth ar foeleri nwy (Lily. Glover-Wright, 2021, Woodfield, 2021). Ar hyn o bryd, mae’r sector tai cymdeithasol, gyda chyllid gan y llywodraeth, yn ymgymryd â phrosiectau i ôl-osod cartrefi ledled y DU gydag amrywiol dechnolegau carbon isel ac uwchraddio adeiledd yr adeilad i wella gwrthiant thermol. Mae hyn yn caniatáu i landlordiaid cymdeithasol ôl-osod rhannau mawr o’r stoc dai i fod yn fwy effeithlon yn thermol ac i ryddhau llai o allyriadau. Mae’r holl gamau hyn yn helpu i leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil, ac maent yn allweddol i weithio tuag at y targed sero net ar gyfer 2050.
Dolenni Defnyddiol
- Canllaw ar ôl-osod eich cartref
- Chwe egwyddor ôl-osod tŷ i gyrraedd targedau sero-net
- Gwaith ôl-osod carbon isel
Cyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) City & Guilds
Cymwysterau Lefel 3
Mae City & Guilds yn cynnal nifer o weithdai a sesiynau DPP am y cymhwyster lefel 3 yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth. Cadwch lygad am ragor o fanylion yn eich blwch derbyn.
Cyfleoedd Penodol i’r Diwydiant
Isod mae rhestr o sioeau a allai fod o ddiddordeb i chi fel gweithiwr adeiladu proffesiynol neu gyfle i fynd â’ch dysgwyr iddynt hefyd:
- Futurebuild
- Sioe Adeiladu Cymru Caerdydd 2023
- Build Show
- Wythnos Adeiladu’r Deyrnas Unedig, Birmingham
- Sioe Adeiladu Cymru Abertawe 2023
Mae’r gyfres newydd o gymwysterau adeiladu a pheirianneg gwasanaethau adeiladu yng Nghymru gan City and Guilds ac EAL wedi cael eu datblygu drwy weithio’n agos gydag arbenigwyr blaenllaw i sicrhau eu bod yn cynnig llwybr dilyniant syml a chlir sy’n paratoi dysgwyr ar gyfer astudiaethau pellach a symud ymlaen. Ar yr un pryd, maent yn helpu dysgwyr i ennill sgiliau a phrofiad o safon diwydiant, gan gefnogi datblygiad gyrfa a chreu cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol.
Mae’r cymwysterau’n cael eu darparu yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr yng Nghymru ar y cyd â’r datblygwr, Persimmon Homes Wales. Mae myfyrwyr sydd wedi cwblhau’r cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu wedi symud ymlaen i brentisiaeth Lefel 3 gyda’r datblygwr.
Da i ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr
Wrth drafod y diwygiadau, rhannodd Angharad Lloyd Beynon, Rheolwr Polisi, Rhanddeiliad a Phartneriaethau City and Guilds, ei barn am werth y cymwysterau diweddaraf:
“Gydag EAL, rydyn ni’n rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl i gael cyfleoedd yn y diwydiant adeiladu. Bydd y cymwysterau newydd hyn yn galluogi pobl i ddechrau gyrfa ym maes adeiladu gyda llwybrau dilyniant clir.”
Dechreuodd y cydweithio rhwng Coleg Pen-y-bont ar Ogwr a Persimmon Homes yn 2017 gyda 10 dysgwr i ddechrau, a thros y blynyddoedd mae’r nifer hwnnw wedi cynyddu i gynnwys prentisiaethau gwaith coed a gosod brics. Dywedodd Pennaeth Cwricwlwm STEM yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr, Rachel Edmonds-Naish, sut y gall y newid sicrhau bod dysgwyr yn elwa mwy fyth ar eu hastudiaethau:
“Mae’r cymwysterau newydd hyn yn rhoi amrywiaeth ehangach o lawer o gyfleoedd i ddysgwyr nag o’r blaen, ac yn rhoi sylw i’r sector adeiladu, gwasanaethau adeiladu a pheirianneg. Yn hytrach na dysgu eu crefft yn unig, maen nhw’n dysgu dwy grefft i ddechrau, ac am gyd-destun ehangach yr hyn mae’n ei olygu i weithio yn y sector adeiladu.”
Mae Carl Davey, Cyfarwyddwr Ansawdd Rhanbarthol yn Persimmon Homes Cymru, wedi gweld â’i lygaid ei hun sut mae cymwysterau Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu wedi helpu i fynd ati’n lleol i ddatblygu’r gweithwyr talentog sydd eu hangen ar eu busnes, gan sicrhau model busnes cynaliadwy a chadw talent yn y sector hollbwysig hwn.
“Rydyn ni wedi meithrin perthynas lwyddiannus â Choleg Pen-y-bont ar Ogwr dros y blynyddoedd diwethaf, gan ymgysylltu â myfyrwyr o raglenni llawn-amser a chynnig y cyfle iddynt symud ymlaen i’r diwydiant drwy ein rhaglen brentisiaethau.”
Ychwanegodd Betty Lee, Prentis Saer yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr:
“Byddwn yn argymell y cwrs sylfaen i bobl eraill oherwydd mae’n ffordd dda o ddechrau arni ym maes adeiladu ac mae hefyd yn fan cychwyn os ydych chi eisiau symud ymlaen. Gallwch chi fynd ymlaen i wneud lefel dau, lefel tri, neu hyd yn oed fynd ymlaen wedyn i wneud cwrs rheoli. Rydw i’n ystyried dilyn y cwrs rheoli, neu hyd yn oed ddechrau fy musnes fy hun.”
Mae’n deg dweud bod dyfodol cymwysterau Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yng Nghymru bellach yn nwylo medrus ac uchelgeisiol iawn ei brentisiaid, gan osod sylfeini ar gyfer adeiladu o safon diwydiant ynghyd â llwybrau gwell ar gyfer eu dyfodol disglair eu hunain.
Hoffai pawb yn City & Guilds ac EAL fynegi eu cydymdeimlad dwysaf â’r Teulu Brenhinol yn ystod y cyfnod anodd hwn. Roedd Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II yn ysbrydoliaeth i bob un ohonom, a’r enghraifft orau o wasanaeth cyhoeddus, ymroddiad personol a chadernid y gwyddom amdani. Mae City & Guilds yn falch o fod yn sefydliad Siartredig Brenhinol ac rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth rydym ni, a llawer o’n dysgwyr, wedi’i chael drwy’r ymrwymiad a ddangoswyd i bwysigrwydd sgiliau a’n hamcanion elusennol sy’n cael eu cydnabod gan y siarteriaeth hon. Bydd y golled yn cael ei theimlo’n ddwfn drwy’r wlad ac ar draws y byd. Mae ein gwaith hanfodol yn parhau, a byddwn yn rhannu’r newydd diweddaraf â’n canolfannau, ein dysgwyr a rhanddeiliaid eraill wrth i ragor o wybodaeth ddod i law.
Cylchlythyr Adeiladu – Crynodeb o Ddatblygiad Proffesiynol ParhausTechnoleg Newydd ym maes Adeiladu
Croeso i’n hail gylchlythyr gan City and Guilds ac EAL. Bydd y cylchlythyr yn cael ei gyhoeddi bob chwarter a bydd yn cynnwys:
- Casgliad o wybodaeth ddiddorol a defnyddiol y gellir ei defnyddio ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
- Dolenni at adnoddau perthnasol
- Cysylltiadau defnyddiol yn y diwydiant
- Manylion digwyddiadau a hyfforddiant
- Datblygiadau newydd yn y diwydiant a fydd yn helpu wrth gyflwyno’r cyrsiau Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladu.
Themâu’r cylchlythyr
Thema’r Cylchlythyr cychwynnol hwn yw Technoleg Newydd ym maes Adeiladu. Os oes themâu eraill yr hoffech i ni roi sylw iddynt yn y diweddariad chwarterol hwn i’r diwydiant, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost at Charlie.evans@cityandguilds.com
Defnyddio Technoleg i Addysg Adeiladu CONVERT
Mae Canolfan Arloesi Adeiladu Cymru (CWIC) yn ail-lansio prosiect blaenllaw sy’n cael ei ariannu gan CITB o’r enw CONVERT (Hyfforddiant Adnoddau Rhith-Amgylchedd Adeiladu). Mae CONVERT yr hydref hwn yn paratoi i gynnig cyfleoedd trochi gan ddefnyddio meddalwedd a chaledwedd Realiti Rhithwir a Realiti Cymysg arloesol i fyfyrwyr mewn Addysg Bellach ac Uwch.
Mae cyfleoedd dysgu CONVERT yn cael eu darparu drwy ei bartneriaeth unigryw rhwng sefydliadau addysgol ledled y DU, gan gynnwys Coleg Bridgewater a Taunton, Coleg Cambria, Canolfan Arloesi Construction Scotland, Coleg Leeds, Prifysgol Cymru, Canolfan Arloesedd Adeiladu Cymru Dewi Sant a Chanolfan Arloesi Adeiladu Waltham Forest.
Nod y prosiect yw creu gwely prawf lle mae Dysgu Trochi yn cael ei ddefnyddio ochr yn ochr â dulliau dysgu ac addysgu traddodiadol i gyd-destunoli’r ddarpariaeth yn yr ystafell ddosbarth. Ar ben hynny, mae gwreiddio dysgwyr yn ein rhith-amgylchedd ar draws pedair galwedigaeth allweddol yn y diwydiant yn cynyddu eu sgiliau ac yn eu hymgyfarwyddo â chyfarpar arbenigol. Mae hyn yn ei dro yn lleihau gwallau, damweiniau, amser a chostau. Roedd hyn i gyd yn bosibl drwy ddefnyddio Dysgu Trochi mewn ffordd bwrpasol a gwybodus.
Dyma’r datrysiadau CONVERT:
- Defnyddio Dronau Adeiladu (Realiti Rhithwir)
- Peiriannau Gwaith Coed a Chwistrellu Paent (Realiti Rhithwir a Realiti Cymysg)
- Gweithio ar Uchder – Sgaffaldiau (Realiti Rhithwir)
- Porydd Elfen Amgylchedd Adeiledig Rhithiol, sef Virtual Built Environment Element Explorer – VBEEE (Realiti Rhithwir)
Dywedodd Gareth Wyn Evans, Pennaeth Canolfan Arloesi Adeiladu Cymru:
“Nod datrysiadau CONVERT arloesol CWIC yw gyrru addysg adeiladu yn ei blaen a hyrwyddo’r defnydd o dechnolegau sy’n torri tir newydd ym myd addysg.”
“O safbwynt addysg a’r diwydiant adeiladu, mae hyfforddiant trochi a hyfforddiant o bell yn ddiddorol, yn gost-effeithiol ac yn ddiogel, ac mae’n rhoi profiad go iawn i’r hyfforddeion nad yw bob amser ar gael mewn cyfleusterau addysgol.
Mae CONVERT yn gwneud hyn drwy ganiatáu i ddysgwyr archwilio, ymgyfarwyddo, ac ymarfer yn ein hamgylchedd efelychol. Yn ei dro, gall dysgwyr ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a phrofiad heb amharu ar ganlyniadau yn y byd go iawn.
Er bod Covid-19 wedi cyfyngu ar ein mynediad at amgylcheddau gwaith byw, mae Realiti Rhithwir, yn enwedig drwy’r prosiect CONVERT, wedi galluogi dysgwyr i brofi syniadau, cydrannau a nodweddion cyn eu neilltuo ar gyfer adeiladu, lle mai dim ond mewn gwerslyfrau a chyflwyniadau ar-lein y maen nhw wedi dod ar draws y pwnc o’r blaen. Mae hyn i bob pwrpas yn digideiddio’r ddarpariaeth ac yn ceisio newid canfyddiadau o’r sector adeiladu sy’n esblygu. Gyda’r cynllun peilot wedi’i gwblhau erbyn hyn, rydyn ni’n edrych ymlaen at gyflwyno mynediad at ein datrysiadau ymhellach.”
Mae CWIC eisoes wedi treialu ei chyfleoedd ‘rhith- ymarferol’ mewn partneriaeth â CIOB. Treialwyd rhaglen gyda dysgwyr addysg bellach, lle defnyddiwyd ein meddalwedd arddull gemau. Roedd y cynllun peilot yn galluogi’r dysgwyr i archwilio a phrofi’r broses adeiladu drwy adeiladu amrywiaeth o wahanol adeiladau ar-lein. Ar ôl ei gwblhau, roedd y dysgwyr yn gallu cymharu’r mesurau perfformiad, cynaliadwyedd a chost a oedd yn rhan o’r adeilad gorffenedig.
I gael rhagor o wybodaeth am sut gall eich dysgwyr a’ch myfyrwyr elwa o’r profiadau cyffrous hyn, cysylltwch â Julie Evans (julie.evans@uwtsd.ac.uk)
Rheoli Gwybodaeth Adeiladu (BIM)
Ni fyddai unrhyw gylchlythyr am dechnoleg newydd yn gyflawn heb sôn am BIM. Ysgrifennwyd yr erthygl ddiddorol hon gan Nigel Robins. Nigel yw’r prif ddadansoddwr data ar hyn o bryd ar Raglen Adfer a Thrwsio Palas San Steffan (Senedd y DU). Mae ganddo gefndir ym meysydd treftadaeth a chadwraeth, yn enwedig adeiladau diwydiannol.
BIM, y cyfleoedd newydd ar gyfer cadwraeth treftadaeth
Golwg ddigidol ar Balas San Steffan sy’n dangos yr holl simneiau a’r llefydd tân (lliw glas). Rydyn ni’n defnyddio modelau digidol i amcangyfrif yr holl waith rydyn ni’n bwriadu ei wneud.)
Sgriw bychan wedi’i wneud â llaw yn eu miloedd yn y 1840au gyda gorffeniad tyllog. Mae BIM yn caniatáu i ni ddeall y pethau mawr a’r pethau bach iawn. Mae angen i ni gyfrifo faint o sgriwiau sydd eu hangen arnom i adnewyddu’r drysau i gyd!
Pan gefais fy nghyflwyno gyntaf flynyddoedd lawer yn ôl i fyd Modelu Gwybodaeth Adeiladau (BIM), dywedodd fy hyfforddwr “mae’r diwydiant adeiladu wedi bod yn gwneud pethau yr un fath ers miloedd o flynyddoedd…mae concrit yn cael ei dywallt, mae brics yn cael eu pentyrru, mae pren yn cael ei ddefnyddio ar gyfer fframiau a ffitiadau a systemau gwresogi a dŵr yn cael eu dylunio”. Mae adeiladu modern yn newid y technegau hynny, ond yn yr un modd, mae llawer o dechnegau adeiladu traddodiadol yn cael eu hailwerthuso a’u deall o safbwynt cynaliadwyedd. Mae technegau TG a data modern yn fy ngalluogi i olrhain cadwyni cyflenwi ar gyfer pren a deunyddiau eraill a deall effaith adeiladu ac adfer ar amgylcheddau ac adnoddau lleol a chenedlaethol.
Fy ngwaith ar hyn o bryd yw cymhwyso technoleg newydd i adfer ac atgyweirio Palas San Steffan. Mae’r rhaglen adfer yn gymysgedd cymhleth o waith atgyweirio cerrig traddodiadol, cadwraeth ffenestri lliw, plastr, a miloedd o osodion a ffitiadau mewn pres, haearn a gwydr. Bellach, gellir sganio gwrthrychau i’w trwsio neu eu hadfer mewn 3D ac asesu eu cyflwr cyn datgymalu neu ddechrau gweithio. Mae defnyddio technegau sganio laser modern yn ein galluogi i gofnodi’n fanwl iawn waith cerrig neu ffenestri problemus y gallai fod angen eu newid. Bellach mae gennyf fynediad at fodel digidol 3D o’r ystafelloedd rwy’n bwriadu eu hadfer, a gallaf ddeall a chynllunio ar gyfer adfer papur wal, lloriau, plastr, drysau a ffenestri mewn manylder nad oedd yn bosibl prin 5 mlynedd yn ôl. Gallaf greu model digidol o adeilad cyfan a chysylltu fy holl wybodaeth â lleoliadau penodol mewn copi digidol dyblyg o’r adeilad ei hun. Mae hyn eisoes yn cael budd wrth i ni gofnodi union fanylion daearegol pob gwaith trwsio cerrig rydyn ni’n ei gwblhau.
Mae deall fy adeilad ym myd newydd BIM yn golygu y gallaf ragweld faint o waith trwsio traddodiadol y bydd ei angen ac a fydd gennyf gyfleoedd i ddefnyddio dulliau a thechnegau newydd. Rwy’n gwybod bod rhai o’r hen ffenestri llithro mewn aloi anarferol o efydd a phlwm ac efallai y bydd yn rhaid eu hargraffu mewn 3D gan na allwn atgynhyrchu’r aloi na’r castiau cain o’r 1840au. Mae sganiau eraill o ddrysau derw o’r 1850au yn fy helpu i ddeall bod angen i mi gael 120 o sgriwiau pres bach ar gyfer pob drws wedi’i adnewyddu. Mae’n bwysig gwybod hyn pan fydd gennych chi dair mil o ddrysau i gynllunio ar eu cyfer!
Felly, mae fy myd digidol nawr yn cael ei ddefnyddio i ddod â thechnegau adeiladu a saernïo modern at ei gilydd a’u cyfuno â dulliau traddodiadol o atgyweirio ac asesu effeithiau ac olion traed cynaliadwyedd. Gallaf efelychu perfformiad ynni’r gwaith atgyweirio ac arbrofi gyda gwahanol ddulliau o adfer.
Mae’n hawdd dod o hyd i bopeth rydyn ni’n ei greu ar sgriniau ffôn, felly mae gan y swyddog cadwraeth neu grefftwr yr holl wybodaeth hanfodol yn y lle iawn a’r amser iawn – mantais anhygoel wrth geisio arbed amser ac arian!
Efallai mai’r peth gorau am hyn oll yw gallu cyfuno sgiliau adeiladu traddodiadol â thechnoleg TG arloesol, sydd eisoes yn trawsnewid y ffordd rydyn ni’n gofalu am ein hamgylchedd adeiledig.
Canolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC
Yma yng Nghymru, mae SPECIFIC, yng Ngholeg Peirianneg Prifysgol Abertawe, yn arwain y ffordd mewn ymchwil i systemau a thechnolegau ynni ar gyfer adeiladau. Mae’r prosiect wedi datblygu cysyniad o’r enw ‘Adeiladau Gweithredol’ lle mae adeiladau wedi’u cynllunio i gynhyrchu, storio a rhyddhau eu hynni adnewyddadwy eu hunain. Eu nod yw datblygu technolegau fforddiadwy y gellir eu cynhyrchu mewn swmpo ran cyfaint, eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu ar ddiwedd eu hoes.
Defnyddir adeiladau arddangos SPECIFIC i brofi a dilysu syniadau newydd. Mae’r adeiladau hyn yn cynnwys ystafell ddosbarth, swyddfa a warws. Maen nhw hefyd yn cefnogi Grŵp Pobl i ddatblygu 16 o gartrefi ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol.
Bydd gwella perfformiad ynni adeiladau yn rhan hanfodol o ymdrechion i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Rhan greiddiol o waith SPECIFIC yw rhannu dysgu a chefnogaeth i eraill er mwyn mabwysiadu a gwella dyluniad adeiladau carbon isel. Drwy ymgysylltu’n rhagweithiol â’r diwydiant adeiladu a busnes, maen nhw wedi helpu dros 200 o sefydliadau i redeg yn fwy cynaliadwy neu i ddatblygu cynnyrch a phrosesau carbon isel. Maen nhw hefyd yn cynnal sesiynau allgymorth gydag ysgolion a cholegau i annog datblygu sgiliau perthnasol ar gyfer y diwydiant adeiladu yn y dyfodol.
Mae rhagor o wybodaeth am y gwaith arloesol hwn ar gael yn yr astudiaethau achos a’r wybodaeth sy’n ymwneud â’r technolegau newydd sydd wedi cael eu defnyddio, fel ffotofoltaigau organig a storio gwres solar.
Casgliad B1M o fideos addysgiadol ac ysbrydoledig.
Os ydych chi’n chwilio am adnoddau i ysbrydoli, i ennyn diddordeb ac i ysgogi eich dysgwyr, yna peidiwch ag edrych ymhellach na’r B1M. Mae gwefan B1M yn datgan ‘rydyn ni wrth ein bodd yn adeiladu, ac rydyn ni am i’r byd i gyd ei garu hefyd’. Mae’r wefan yn cynnig fideos byr o ansawdd uchel ar amrywiaeth eang o bynciau adeiladu, gan gynnwys technolegau newydd. Y newyddion da yw eu bod i gyd yn rhad ac am ddim!
Gallwch ddod o hyd i fideos am bynciau sy’n amrywio o BIM, Roboteg Adeiladu, Dinasoedd Clyfar a Bywyd Micro – dim ond rhai ohonyn nhw a enwir yma.
Dyma rai o’r uchafbwyntiau:
Sut bydd y tŷ 3-D hwn yn newid y byd: Mae’r fideo hwn yn dangos y cynnydd sy’n cael ei wneud yn y dechnoleg ar gyfer adeiladau wedi’u hargraffu mewn 3-D ac yn trafod yr arbedion cyffredinol a’r arbedion effeithlonrwydd y gall hyn eu cynnig.
Pam y dylai pob adeilad fod yn bren: Mae’r fideo hwn yn dangos sut mae dulliau prosesu arloesol wedi adfer pren wrth i’r deunydd adeiladu pwysig hwn gamu i’r dyfodol.
Sut gall adeiladau bweru ein byd: Mae’r fideo hwn yn archwilio sut y gallwn gynhyrchu ynni, arbed ynni a gwella effeithlonrwydd ynni hen adeiladau gan ddefnyddio technoleg newydd.
Deunyddiau arloesol ym maes adeiladu: Dyma glip byr diddorol sy’n egluro concrid hunan-drwsio, teils llawr sy’n cynhyrchu ynni a dulliau argraffu 4-d a allai arwain at ddatblygiadau enfawr mewn plymio a meysydd adeiladu eraill.
Adeiladu oddi ar y safle
Mae tai ‘modiwlaidd’ sydd wedi’u gwneud yn y ffatri yn opsiwn ar gyfer cynyddu’n gyflym nifer y tai cymdeithasol a fforddiadwy o ansawdd uchel sy’n cael eu hadeiladu ledled Cymru.
Gan fod modd cynhyrchu cartrefi modiwlaidd yn unol â safonau llym mewn amgylchedd ffatri a reolir, maen nhw’n goresgyn yr her o geisio adeiladu ym mhob tywydd ac yn agor y posibilrwydd o goleddu technoleg i gyflwyno arbedion effeithlonrwydd pellach yn y broses gynhyrchu.
I gael rhagor o wybodaeth am y ffeithiau a’r camsyniadau a dyfodol adeiladau modiwlaidd, efallai y bydd y weminar hon sydd wedi’i recordio yn ddefnyddiol i chi. Mae’r weminar yn cael ei chyflwyno gan Ben Wernick, Rheolwr-gyfarwyddwr Wernick Construction a chefnogwyd y digwyddiad gan y Sefydliad Siartredig Adeiladu (CIOB).
Cyfleoedd DPP – Sioeau masnach
Os ydych chi’n chwilio am gyfleoedd ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus, Wythnos Adeiladu’r DU yw digwyddiad amgylchedd adeiledig mwyaf y DU ac fe’i cynhelir yn Birmingham rhwng 5 a 7 Hydref 2021 a Llundain rhwng 3 a 5 Mai 2022.
Mae’n rhoi sylw i amrywiaeth enfawr o bynciau diddorol, gan gynnwys technolegau newydd ym maes adeiladu. Os na allwch chi ddod i’r digwyddiadau, mae platfform ar-lein y gallwch gofrestru ar ei gyfer.
Ewch i wefan Wythnos Adeiladu’r DU
Yng Nghymru, mae Sioe Adeiladu Cymru wedi cael ei gohirio tan 2022 ond bydd yn cyflwyno gwybodaeth am gynnyrch a gwasanaethau newydd ac arloesol, datblygiadau yn y diwydiant adeiladu a seminarau llawn gwybodaeth gan Arbenigwyr y DU.
Ewch i’r wefan (Saesneg yn unig)
Cymwysterau Cymru – trefniadau trosiannol CBSECysylltodd Cymwysterau Cymru â chanolfannau yn gynharach ym mis Chwefror i roi gwybod iddyn nhw eu bod bellach wedi adolygu trefniadau’r cymwysterau Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu a fydd ar waith ar gyfer mis Medi 2021 a mis Medi 2022 oherwydd yr effaith y mae’r cyfyngiadau symud wedi’i chael ar addysgu a hyfforddi ledled Cymru.
Trefniadau cymwysterau yn gryno:
- Bydd Cymwysterau Cymru yn caniatáu dynodi cymwysterau cyfredol am flwyddyn arall (tan 31 Mai 2022).
- Bydd y Cymhwyster Sylfaen newydd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2) a’r Cymhwyster Dilyniant mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2) ar gael o fis Medi 2021 ymlaen fel y cynlluniwyd.
- Bydd y cymwysterau Adeiladu Lefel 3 a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 3 newydd ar gyfer prentisiaethau yn cael eu gohirio am flwyddyn a byddan nhw ar gael i ganolfannau eu haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2022.
Er y bydd Cymwysterau Cymru yn caniatáu ymestyn y broses o ddynodi’r cymwysterau presennol, byddan nhw’n annog darparwyr i ddechrau dysgwyr ar y cymwysterau newydd cyn gynted â phosibl.
Darllenwch y llythyr gan Cymwysterau Cymru
Gwelwch y ffeithlun gan Cymwysterau Cymru
Cylchlythyr Sgiliau i Gymru – Gwanwyn 2021 rhifynCroeso i’n Cylchlythyr Sgiliau i Gymru, thema’r cylchlythyr cychwynnol hwn yw Adeiladu Treftadaeth:
- Casgliad o wybodaeth ddiddorol a defnyddiol y gellir eu defnyddio ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
- Dolenni at adnoddau perthnasol
- Cysylltiadau defnyddiol yn y diwydiant
- Manylion digwyddiadau, cyflenwyr a hyfforddiant
- Datblygiadau newydd yn y diwydiant a fydd yn helpu i ddarparu cyrsiau Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladu.
Thema’r Cylchlythyr cychwynnol hwn yw Adeiladu Treftadaeth.
Cysylltwch i roi gwybod i ni pa themâu eraill yr hoffech eu gweld yn cael eu cynnwys yn y diweddariad chwarterol hwn i’r diwydiant.
Gobeithio y byddwch yn mwynhau’r Cylchlythyr hwn, ond os byddai’n well gennych beidio â’i dderbyn yn y dyfodol, cliciwch ar y botwm ‘dad-danysgrifio’ isod.
Gwych ac Am Ddim! – Adnoddau dysgu ar-lein
Os ydych chi’n chwilio am adnoddau rhyngweithiol i helpu eich dysgwyr i ddeall hen adeiladau – dyma’r lle i chi!
Mae tri modiwl wedi cael eu datblygu diolch i’r Prosiect Adeiladu Treftadaeth yng Nghymru (HECW) a ariennir gan CITB.
Dyma’r modiwlau:
- Diogelu Hen Adeiladau- y Rhesymeg
- Deunyddiau a Dulliau ar gyfer gwarchod hen adeiladau yng Nghymru
- Arbed ynni ac ôl-osod mewn adeiladau traddodiadol
Mae pob modiwl ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ac fe’i hanelir at lefel ragarweiniol o ddealltwriaeth. Mae’r adnoddau hyn am ddim i chi eu defnyddio drwy glicio ar y penawdau uchod.
Olion Rhufeinig prin
Beth fydd yn digwydd os byddwch chi’n darganfod olion Rhufeinig prin ar safle eich datblygiad tai newydd?
Cliciwch yma i weld y stori lawn ac i gael gwybod mwy am sut mae archaeolegwyr a datblygwyr yn cydweithio i warchod ein treftadaeth.
Hyfforddiant i’r Hyfforddwyr
Mae tiwtoriaid o Goleg Sir Benfro wedi ymuno â thîm Canolfan Tywi ar gyfer y gyntaf mewn cyfres o bum sesiwn hyfforddi treftadaeth. Mae’r tiwtoriaid i gyd yn hynod fedrus a phrofiadol ond roeddent eisiau gloywi eu sgiliau adeiladu treftadaeth er mwyn paratoi ar gyfer y newidiadau yn y cwricwlwm.
O fis Medi 2021 ymlaen, bydd yr holl fyfyrwyr newydd ym maes Adeiladu ac Amgylchedd Adeiledig yn cael eu dysgu am bwysigrwydd adeiladau hanesyddol yng Nghymru. Byddant yn dysgu sut mae gofalu amdanynt a’u hatgyweirio yn wahanol i ddulliau adeiladu modern.
Mae’r pynciau yn y gyfres hon o hyfforddiant DPP yn cynnwys:
- Gwarchod hen adeiladau yng Nghymru: y Rhesymeg
- Mecanwaith Hen Adeiladau
- Deunyddiau a dulliau ar gyfer adeiladau traddodiadol
- Cynaliadwyedd: y persbectif mwy eang a goblygiadau’r sector adeiladu
- Effeithlonrwydd ynni ac ôl-osod: y manylion adeiladu
Mae’r cyrsiau’n sesiynau hanner diwrnod a ddarperir ar-lein. Mae Canolfan Tywi hefyd yn datblygu adnoddau i’r Tiwtoriaid eu defnyddio gyda’u dysgwyr. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am Ganolfan Tywi a’u cyrsiau Hyfforddi’r Hyfforddwr, cliciwch yma i fynd i’w gwefan.
Ffilmiau byr i gefnogi hyfforddiant adeiladu treftadaeth
Mae cyfres o ffilmiau byr wedi cael eu cynhyrchu gan Fforwm Adeiladau Traddodiadol Cymru i gefnogi darparwyr hyfforddiant gyda’u darpariaeth.
Mae’r ffilmiau byr yn cynnwys:
- Agregau a morterau traddodiadol
- Toddi calch brwd
- Namau mewn adeiladau traddodiadol
- Morterau calch cymysg poeth
Cliciwch ar y dolenni uchod i weld y ffilmiau.
Newid yn yr hinsawdd ac adfer adeiladau – beth yw’r cysylltiad?
Mae sawl rheswm dros ofalu’n briodol am ein hen adeiladau. Mae’r rhain yn cynnwys rhesymau diwylliannol gan fod gan hen adeiladau gysylltiadau â’r bobl a oedd yn byw neu’n gweithio yno ar un adeg. Maent yn creu cymeriad ac ymdeimlad o le yn lleol. Mae ganddynt werth economaidd gan eu bod yn denu twristiaid ac yn cynnig cymeriad a chynhesrwydd i adeiladau busnes.
Mae ymchwil gynnar hefyd yn dangos bod ailddefnyddio ac uwchraddio ein stoc o hen adeiladau mewn modd priodol yn gallu creu arbedion carbon sylweddol. I ddysgu mwy am yr ymchwil hon, dilynwch y ddolen yma.
Hyfforddiant Treftadaeth Arbenigol yng Nghymru
Defnyddiwch y dolenni isod i’ch helpu i ddod o hyd i’r Hyfforddiant Adeiladu Treftadaeth a’r cyngor sydd eu hangen arnoch.
Mae Grŵp Cenedlaethol Hyfforddi Towyr Cymru yn sefydliad di-elw, sy’n cael ei ariannu gan grant gan CITB. Mae wedi’i sefydlu er mwyn cefnogi, trefnu a chydlynu hyfforddiant toi ar bob lefel ar gyfer ei aelodau. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant toi treftadaeth achrededig.
Mae Canolfan Tywi yn Sefydliad Hyfforddi Achrededig gan CITB. Mae’n darparu amrywiaeth o gyrsiau adeiladu treftadaeth. I gael manylion eu cyrsiau ymarferol ar blastro calch, gwaith maen a gwaith coed, cliciwch ar y ddolen hon.
Mae gwefan Historic England yn cynnig cronfa enfawr o adnoddau hyfforddi o reoli treftadaeth yn gyffredinol, cadwraeth adeiladau technegol a chyfresi hinsawdd a threftadaeth. Gallwch hefyd archwilio modiwlau e-ddysgu manwl neu ddysgu am reoli prosiectau ar gyfer treftadaeth.
Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu
I unrhyw un sy’n ymwneud â gosod gwasanaethau adeiladu mewn Adeiladau Traddodiadol, mae cyfoeth o gyngor ac arweiniad ar gael ar wefan Historic England.
Mae gan wefan Historic England adran benodol ar gyfer peirianneg gwasanaethau adeiladu.
Yma gallwch ddod o hyd i gyngor ar arolygon ac ymchwiliadau cyflwr sef y camau cyntaf wrth ddisodli neu osod gwasanaethau adeiladu newydd neu gynllunio rhaglen cynnal a chadw. Mae cyflwyniad i’r egwyddorion craidd wrth Gosod gwasanaethau adeiladu newydd ynghyd â chyngor ar Cynnal a chadw systemau gwasanaethau adeiladu yn dda mewn adeiladau hanesyddol.
Gallwch hefyd gael mynediad at gyfres o weminarau sy’n cael eu cyflwyno a’u recordio gan Historic England ar thema Gwasanaethau Adeiladu. Mae rhain yn cynnwys: